Tuesday 22 May 2012

Lansiad Blasus Nofel Newydd Manon Steffan Ros

Yr awdures gyda'i nofel newydd

Cynhaliwyd lansiad hynod lwyddiannus yn Llyfrgell newydd y Dref, Aberystwyth nos Fercher yr 16eg o Fai wedi i haid ymgasglu i ddathlu cyhoeddi Blasu, nofel newydd Manon Steffan Ros. Yn ogystal â dathlu’r nofel newydd, roedd hi hefyd yn noson arbennig yn hanes y llyfrgell, gan mai dyna’r digwyddiad cyntaf i’w chynnal yno ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddechrau’r mis.

Croesawyd pawb wrth y drws gyda gwydraid o win a dewis o gacennau lu, danteithion a baratowyd yn arbennig gan yr awdures ei hun gan ddefnyddio’r ryseitiau sydd i’w cael yn y nofel, yn ogystal â chacennau bach gan gogyddes ifanc leol, Mari Elin Morgan, sydd wedi sefydlu busnes pobi ei hun yn ddiweddar, Sleisen o Deisen.

Manon Steffan Ros, Nia Peris a Branwen Rhys Huws yn mwynhau eu cacennau!
“Dwi wastad wedi bod dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad efo bwyd,” cyfaddefodd Manon Steffan Ros yn y lansiad. “Mae fy atgofion hefyd ynghlwm â pha bynnag fwyd oedd o gwmpas ar y pryd – mae fy ngŵr yn fy herian i am ’mod i’n cofio’n union pa bryd ges i mewn bwyty ddeng mlynedd yn ôl, ond yn methu cofio lle dwi ’di rhoi fy ngoriadau! Mae bwyd yn brofiad emosiynol i mi, mae o’n un o’r ffyrdd dwi’n dangos cariad.”

Ond er bod pob pennod yn dechrau gyda rysáit wahanaol, prysurodd Manon i bwysleisio nad llyfr ryseitiau yw’r nofel, ond cyfle i ddarllenwyr flasu a phrofi’r un pethau â’r prif gymeriad, Pegi. Wrth ddewis a dethol y ryseitiau ar gyfer y nofel, cyfrannodd Manon ambell un sy’n agos at ei chalon – gan gynnwys pwdin barlys roedd ei hen hen nain yn ei baratoi bob bore ar gyfer naw o blant, a rysáit am grempogau ceirch ei nain o ochr arall y teulu.

“Mi fues i’n pendroni am hydoedd a ddylwn i ddewis ryseitiau ro’n i’n gwybod oedd yn boblogaidd a thrin y nofel fel cyfle i arddangos fy hoff fwyd. Ond, yn y diwedd, roedd amgylchiadau Pegi yn llywio’r ryseitiau.

“Mae cael perthynas gymhleth efo bwyd bron â bod yn norm erbyn hyn,” eglurodd Manon. “Dwi’n synnu faint o bobl sydd wedi dioddef o ryw anhwylder bwyta yn ystod eu bywydau, ac erbyn heddiw rydan ni’n gweld bwydydd fel rhai da neu ddrwg. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod bwyd a bwyta’n brofiad emosiynol – tydi o ddim yn fater o fwynhau neu gasáu, mae o’n weithred o ddrygioni neu ddaioni.”

Dyma ail nofel yr awdures i oedolion, a hynny’n dilyn llwyddiant ei nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn, enillydd gwobr Barn y Bobl Golwg 360 yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Yn yr un flwyddyn fe enillodd Manon Wobr Tir na-Nog am Trwy’r Tonnau, nofel i blant a phobl ifanc, ac mae ei nofel ddiweddaraf i bobl ifanc Prism, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na-Nog 2012.

Manon yn llofnodi copi i'w ffrind, Gwen Gruffudd


1 comment:

  1. Nifer o adolygiadau da wedi bod i Blasu yn y wasg erbyn hyn. Dyma ambell i sylw:

    “Mae’r cymeriadau yn rhai difyr, y plot yn gafael, yr arddull yn synhwyrus a’r cyfan yn rhoi mwynhad. Be arall fedr rhywun ofyn amdano?” Angharad Tomos, Yr Herald Gymraeg

    “Nofel synhwyrus, ddyfeisgar ac ingol o sensitif… Llond llwy fwrdd o Caradog Prichard felly, llwy bwdin o Kate Roberts, sbrinclo mymryn o awduron mwy cyfoes dros y cyfan, ond yn bennaf llond popty o lais hyfryd, sensitif ond chwerwfelys Manon Steffan Ros.” Gwenan Mared, Barn

    “Mewn byd lle mae greddfau naturiol yr unigolyn yn pylu, mae hon yn nofel sy’n ymdrin â sawl ysfa gyntefig sy’n ddwfn yn y ddynoliaeth.” Catrin Beard

    “Roedd y profiad o ddarllen Blasu yn un chwerw-felys. Mae i'r gyfrol ei themâu tywyll ac ysgytwol yn ogystal â llawenydd a phrofiadau melys. Mae arddull gryno ac iaith liwgar a chyfoethog yr awdur wedi sicrhau fod hon yn stori fydd yn aros yn hir yng nghof y darllenydd. Cefais flas anghyffredin ar ddarllen hon – mwyhewch!” Janet Roberts, Gwales

    “Wir i chi, mae’n chwip o nofel!” Bethan Gwanas, Yr Herald Gymraeg

    “Dyma wledd o nofel... Mae Manon Steffan Ros yn un o lenorion mwyaf synhwyrus ein llên gyfoes, ei dawn ddisgrifio a'i chlust at ddeialog heb eu hail. Mae 'Blasu' yn sicr yn codi awch am y saig nesaf." - Sioned Williams, Taliesin

    ReplyDelete