Monday 23 April 2012

Dathlu Rygbi Llawr Gwlad

Mae'r Lolfa newydd ryddhau cyfrol o luniau sy'n portreadu ac yn dathlu rygbi ar lefel gymunedol. Mae Rygbi: Calon y Gymuned yn gyfrol unigryw fydd pawb sydd naill ai wedi chwarae neu gefnogi rygbi yn gallu ei fwynhau a’i werthfawrogi. Mae hefyd yn gofnod ac yn ddathliad o fywyd cymunedol Cymreig ar ei orau gan bortreadi’r cymeriadau anfarwol a’r gwirfoddolwyr diflino sy’n ymwneud รข rygbi lleol. Cafodd dros 3,000 o luniau eu tynnu gan Alice Carfrae, Luke Ball a Steven Pepper, myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd - mae’r gyfrol yn gasgliad o’r goreuon ac yn cynnwys lluniau yn y clybiau yma: Abergwaun, Aberteifi, Y Pil, Porthcawl, Taibach, Gwernyfed, Y Coed Duon, Cil-y-coed, Aberhonddu, Aberdar, Ynysddu, Merched Croesyceiliog, Shotton a Bangor. Dyma ambell i lun o'r llyfr.