Yn yr un modd ag mae Steddfod y Bala wastad yn un dda
roedd Bedwen lyfrau 2012 a gynhaliwyd yn Neuadd Cyfnod y Bala ymhlith y goreuon
(roedd rhai Llanrwst a Chrymych yn rhai cofiadwy iawn hefyd).
Un o’r uchafbwyntiau oedd trafodaeth rhwng
sêr y byd llyfrau Bethan Gwanas, Dewi Prysor, Haf Llywelyn a Manon Steffan Ros
(sydd newydd gwblhau ei nofel newydd Blasu) am y broses o ysgrifennu. Dim un
ohonynt wedi dilyn y trywydd arferol…
Uchafbwynt arall oedd y cacennau a’r te gan
aelodau Merched y Wawr oedd yn dathlu cyhoeddi llyfr newydd i ddathlu eu
penblwydd. Pwy all anghytuno â Meri Huws “Lle fyddai Cymru heb Ferched y Wawr,
dywedwch?”
Ymlaen yn awr am Felinfach 2013 os byw ac
iach.
Dyma ambell i lun i roi blas o’r achlysur
No comments:
Post a Comment