Yn sgil
galw gan ddarpar delynorion mae’r Lolfa wedi mynd ati i ailargraffu gwerslyfr
Mair Roberts Hwyl Gyda’r Delyn. Mae dros ugain mlynedd ers i’r Lolfa
gyhoeddi’r gyfrol yn wreiddiol, ac fe sefydlodd ei hun fel y cydymaith safonol
ar gyfer Cymry Cymraeg sydd am fynd ati i ddysgu chwarae’r delyn. Lluniwyd y
gyfrol gan Mair Roberts, un o delynorion disgleiriaf Cymru, ac mae’r gwersi
wedi eu graddio yn ofalus gyda 250 o ymarferion a darnau o gerddoriaeth
draddodiadol a chyfoes, clasurol a phoblogaidd i ymarfer arnynt. Mae’r gyfrol
yn cynnwys ffefrynnau Cymreig fel Croen y Ddafad Felen, Bedd Dafydd Ddu a Huna
Blentyn yn ogystal ag alawon gan rhai o brif gyfansoddwyr y byd fel Brahms,
Bach, Handel, Mozart a Scott Joplin.
Ganed Mair Roberts yn Hen Golwyn.
Bu’n delynores broffesiynol mewn sawl cerddorfa yn cynnwys Cerddorfa
Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, gan ymddangos fel unawdydd mewn nifer fawr o
gyngherddau ac yn fynych ar y radio a’r teledu. Mae hi bellach yn byw yn
Rhuthun.
Bu’r
gyfrol allan o brint am ryw ddeng mlynedd ond mae wastad galw wedi bod amdano.
Mae’r argraffiad newydd wedi ei rwymo yn sbeiral i sicrhau ei fod yn agor yn
fflat ac yn rhwydd. Bydd y gyfrol yn anhepgorol i unrhyw un, o unrhyw oed, sydd
am roi cynnig ar ddysgu chwarae’r delyn, a bydd y casgliad o alawon yn siŵr o
blesio telynorion dibrofiad sydd am ehangu eu repertoire.
Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
ReplyDeleteCofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
CorpwsCymraeg@gmail.com