Showing posts with label Cymru. Show all posts
Showing posts with label Cymru. Show all posts

Friday, 26 June 2015

Yr Erlid yn Almaeneg




Llyfr y Flwyddyn 2013, Yr Erlid i’w gyhoeddi yn Almaeneg

Mae cwmni cyhoeddi mawr o’r Almaen, y Mitteldeutscher Verlag o Halle, wedi cytuno i gyhoeddi cyfieithiad Almaeneg o gyfrol Heini Gruffudd, Yr Erlid, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2013.

Mae’n anghyffredin bod llyfr gwreiddiol Cymraeg yn cael ei gyhoeddi'n fasnachol yn yr Almaen, yn arbennig llyfr sy’n ymdrin â hanes yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o’r gyfrol, A Haven from Hitler, y llynedd. Mae tref Wittenberg, tref enedigol y teulu, yn cyfrannu tuag at y cyhoeddi.

Testun y llyfr yw erlid y Natsiaid ar fam Heini Gruffudd a'i theulu. Ffodd Kate Bosse Griffiths o'r Almaen yn 1936 a dod i Gymru a phriodi Cymro yn 1939. Llofruddiwyd ei mam hithau yng ngwersyll garchar Ravensbruck, ac mae’r stori ddirdynnol yn cynnwys yr erlid ar frodyr Kate ac un perthynas o Hamburg a fentrodd herio'r Natsiaid fel aelod o'r Weisse Rose. 

Bu Dr Paul Bosse, tad-cu Heini a Robat Gruffudd yn brif feddyg yr ysbyty lleol, a bu farw Kaethe Bosse yng ngwersyll garchar Ravensbrück oherwydd ei thras Iddewig. Bydd yn wych gweld y gyfrol yn ymddangos yn yr Almaeneg, ar ôl iddi gael y fath groeso yng Nghymru, a chael ei gyfieithu wedyn i’r Saesneg.

Mae'r Erlid ar werth yma yma
 

Monday, 23 April 2012

Dathlu Rygbi Llawr Gwlad

Mae'r Lolfa newydd ryddhau cyfrol o luniau sy'n portreadu ac yn dathlu rygbi ar lefel gymunedol. Mae Rygbi: Calon y Gymuned yn gyfrol unigryw fydd pawb sydd naill ai wedi chwarae neu gefnogi rygbi yn gallu ei fwynhau a’i werthfawrogi. Mae hefyd yn gofnod ac yn ddathliad o fywyd cymunedol Cymreig ar ei orau gan bortreadi’r cymeriadau anfarwol a’r gwirfoddolwyr diflino sy’n ymwneud â rygbi lleol. Cafodd dros 3,000 o luniau eu tynnu gan Alice Carfrae, Luke Ball a Steven Pepper, myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd - mae’r gyfrol yn gasgliad o’r goreuon ac yn cynnwys lluniau yn y clybiau yma: Abergwaun, Aberteifi, Y Pil, Porthcawl, Taibach, Gwernyfed, Y Coed Duon, Cil-y-coed, Aberhonddu, Aberdar, Ynysddu, Merched Croesyceiliog, Shotton a Bangor. Dyma ambell i lun o'r llyfr.