Friday, 26 June 2015
Catalog Y Lolfa i'r Ifanc
Mae’r Lolfa yn falch iawn o gael cyhoeddi eu catalog llyfrau newydd sbon ar gyfer plant a phobl ifanic. Bydd y catalog yn gartref newydd i gymeriadau hoffus megis Alun yr Arth, Dona Direidi, Rwdlan, Na Nel a’u ffrindiau hñn. Daw’r catalog yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Awst llynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyhoeddi a darllen llyfrau Cymraeg i blant.Datgelodd yr adroddiad:"Erbyn i blant gyrraedd 12 oed, mae'r mwyafrif wedi newid iaith a dim ond llyfrau Saesneg y byddant yn eu benthyca, gydag ambell eithriad poblogaidd." Erbyn iddynt gyraedd eu harddegau, bychain iawn yw’r llyfrau Cymraeg a fenthycir ganddynt.
Gwasg Y Lolfa yw’r unig wasg sydd â pholisi o gyhoeddi llyfrau gwreiddiol yn unig. Mewn marchnad byd-eang hynod o gystadleuol, a dylanwad marchnata trwm llyfrau Saesneg poblogaidd, mae’n hinsawdd gynyddol anodd i lyfrau gwreiddiol Cymraeg. Ond, ble caiff addasiadau o lyfrau i blant eu hargraffu a’u cynhyrchu ar draws y byd, mae’r Lolfa yn falch o ddatgan fod eu holl gynhyrchu yn digwydd yng Nghymru yn eu hargraffdy yn Nhalybont.
Rydyn ni yn hynod o falch o’n cyfresi bywiog, gwreiddiol sydd wedi eu hysgrifennu a’u darlunio gan awduron ac artisiaid Cymreig. Mae yna rai sy’n hoff o sôn am gael ‘balans’ rhwng llyfrau gwreiddiol ac addasiadau. Yn sicr, dyw’r ‘balans’ yna ddim yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae’n arbennig o annheg gan fod safon cynnyrch ein hawduron a’n harlunwyr ni yng Nghymru mor uchel. Mae yna resymau economaidd hefyd dros gynnal swyddi creadigol yn ein broydd, ac mae’r Lolfa’n falch o fod yn cyfrannu at hynny.
Dywedodd yr awdur, Bethan Gwanas yn ei blog poblogaidd: “Ydi o’n iawn bod 2/3 o’r holl lyfrau plant Cymraeg gafodd eu cyhoeddi y llynedd yn gyfiethiadau? [...] llyfrau Cymraeg sydd angen eu marchnata, awduron Cymraeg sydd angen hwb a gwerthiant.”
Bydd y catalog yn cael ei ddosbarthu i ysgolion a llyfrgelloedd ar draws Cymru. Gellir hefyd archebu copi am ddim drwy ebostio ylolfa@ylolfa.com
Labels:
arddegau,
cyhoeddi,
Cymraeg,
Cyw,
Dona Direidi,
llyfrau,
plant,
Rapsgaliwn,
Rwdlan,
S4c,
teenagers,
Welsh language
Yr Erlid yn Almaeneg
Llyfr y Flwyddyn 2013, Yr Erlid i’w gyhoeddi yn Almaeneg
Mae cwmni cyhoeddi mawr o’r
Almaen, y Mitteldeutscher Verlag o Halle,
wedi cytuno i gyhoeddi cyfieithiad Almaeneg o gyfrol Heini Gruffudd, Yr Erlid, a enillodd wobr Llyfr y
Flwyddyn 2013.
Mae’n anghyffredin bod llyfr
gwreiddiol Cymraeg yn cael ei gyhoeddi'n fasnachol yn yr Almaen, yn arbennig
llyfr sy’n ymdrin â hanes yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd. Cyhoeddwyd cyfieithiad
Saesneg o’r gyfrol, A Haven from Hitler,
y llynedd. Mae tref Wittenberg,
tref enedigol y teulu, yn cyfrannu tuag at y cyhoeddi.
Testun y llyfr yw erlid y Natsiaid
ar fam Heini Gruffudd a'i theulu. Ffodd Kate Bosse Griffiths o'r Almaen yn 1936
a dod i Gymru a phriodi Cymro yn 1939. Llofruddiwyd ei mam hithau yng ngwersyll
garchar Ravensbruck, ac mae’r stori ddirdynnol yn cynnwys yr erlid ar frodyr
Kate ac un perthynas o Hamburg
a fentrodd herio'r Natsiaid fel aelod o'r Weisse Rose.
Bu Dr Paul Bosse, tad-cu Heini a Robat Gruffudd yn brif feddyg yr ysbyty
lleol, a bu farw Kaethe Bosse yng ngwersyll garchar Ravensbrück oherwydd ei
thras Iddewig. Bydd yn wych gweld y gyfrol yn ymddangos yn yr Almaeneg, ar ôl iddi
gael y fath groeso yng Nghymru, a chael ei gyfieithu wedyn i’r Saesneg.
Mae'r Erlid ar werth yma yma
Labels:
Ail Ryfel Bydd,
Almaen,
cyhoeddi,
Cymraeg,
Cymru,
Hitler,
llyfrau,
Nazis,
Ravensbruck,
Welsh Books,
Wittenberg
Monday, 10 February 2014
Gwresogydd Biomas Newydd Y Lolfa
Wedi misoedd o waith mae gwresogydd biomas Y Lolfa
yn gweithio o’r diwedd ac yn gwresogi holl swyddfeydd y cwmni a hefyd y ddau
warws mawr yn y cefn. Bydd yr uned, a gostiodd bron i £100,000, yn bwydo 30 o ryddiaduron
trwy ddwr tra bydd awyr cynnes yn dod ohoni i reoli tymheredd y
stoc bapur a'r llyfrau.
Un o'r rhesymau dros gael biomas yw bod pris
trydan a nwy wedi codi cymaint yn ddiweddar. Yn y tymor hir bydd y system
newydd yn llawer rhatach, ond hefyd yn garbon newtral felly yn garedig i’r
amgylchfyd. Gosodwyd panelau haul SPV i mewn ar doeon Y Lolfa ddwy flynedd yn ôl am yr un rheswm.
Mae’r system hefyd yn rhwydd i'w reoli. Gallwn ni weld yn
union faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu bob dydd, a faint ry'n ni'n talu
amdano. A does 'na ddim gwaith cynnal a chadw. Mae'r uned yn bwydo'i hun: dim
ond unwaith y mis mae'n rhaid i ni glirio'r llwch allan. Gosodwyd y system biomas,
fel y system ynni haul, i mewn gan gwmni Dulas o Fachynlleth gyda Marcus
Hickman yn rheoli'r prosiect a Dylan Roberts o Ffestiniog yn gosod y system i
mewn. Daw'r uned ei hun o Awstria. Yn anffodus dyw’r boiler ddim yn gallu
llosgi llyfrau na phapur wast i gynhyrchu gwres ond daw'r pelets pren o gwmni PBE Fuels yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Erbyn hyn daw bron y cyfan o'r egni mae'r Lolfa yn ei ddefnyddio o ffynonhellau adnewyddol.
Thursday, 21 February 2013
Blwyddyn Arall, Dyddiadur Arall
Mae'r gwaith wedi dechrau ar baratoi dyddiaduron 2014 yn barod. Os oes gan unrhyw un syniadau ar sut allwn ni wella'r dyddiaduron dyma'r amser i gysylltu. Hefyd mae croeso mawr i unrhyw gwmni, sefydliad, gymdeithas ayb lanw'r ffurflen yma os ydych yn dymuno cynnwys eich manylion yn ein dyddiaduron ac ar gyfeiriadur ar-lein y Lolfa. Roedd cyfanswm gwerthiant yr holl ddyddiaduron llynedd yn rhyw 20,000 o gopiau felly mae'n gyfle da i gael sylw ac i drio ennill mwy o fusnes.
Wednesday, 31 October 2012
Cyfrol i Roi Telynorion ar Ben Ffordd
Yn sgil
galw gan ddarpar delynorion mae’r Lolfa wedi mynd ati i ailargraffu gwerslyfr
Mair Roberts Hwyl Gyda’r Delyn. Mae dros ugain mlynedd ers i’r Lolfa
gyhoeddi’r gyfrol yn wreiddiol, ac fe sefydlodd ei hun fel y cydymaith safonol
ar gyfer Cymry Cymraeg sydd am fynd ati i ddysgu chwarae’r delyn. Lluniwyd y
gyfrol gan Mair Roberts, un o delynorion disgleiriaf Cymru, ac mae’r gwersi
wedi eu graddio yn ofalus gyda 250 o ymarferion a darnau o gerddoriaeth
draddodiadol a chyfoes, clasurol a phoblogaidd i ymarfer arnynt. Mae’r gyfrol
yn cynnwys ffefrynnau Cymreig fel Croen y Ddafad Felen, Bedd Dafydd Ddu a Huna
Blentyn yn ogystal ag alawon gan rhai o brif gyfansoddwyr y byd fel Brahms,
Bach, Handel, Mozart a Scott Joplin.
Ganed Mair Roberts yn Hen Golwyn.
Bu’n delynores broffesiynol mewn sawl cerddorfa yn cynnwys Cerddorfa
Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, gan ymddangos fel unawdydd mewn nifer fawr o
gyngherddau ac yn fynych ar y radio a’r teledu. Mae hi bellach yn byw yn
Rhuthun.
Bu’r
gyfrol allan o brint am ryw ddeng mlynedd ond mae wastad galw wedi bod amdano.
Mae’r argraffiad newydd wedi ei rwymo yn sbeiral i sicrhau ei fod yn agor yn
fflat ac yn rhwydd. Bydd y gyfrol yn anhepgorol i unrhyw un, o unrhyw oed, sydd
am roi cynnig ar ddysgu chwarae’r delyn, a bydd y casgliad o alawon yn siŵr o
blesio telynorion dibrofiad sydd am ehangu eu repertoire.
Monday, 24 September 2012
Y Kindle yn parhau i wrthod cydnabod elyfrau Cymraeg
Bellach
mae tua hanner cant o lyfrau Cymraeg y Lolfa ar gael ar y Kindle ond yn
anffodus mae Amazon yn parhau i wrthod cydnabod yr iaith Gymraeg. Mae’r llyfrau
Cymraeg sydd ar werth ar y Kindle wedi gorfod cael eu llwytho fel llyfrau Saesneg
ac fel arfer mae’r llyfrau Cymraeg yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn adnabod
yr iaith (mae’r system checio sydd ganddynt yn eitha chwit chwat - felly mae
rhai llyfrau Cymraeg wedi llithro drwy’r rhwyd). Mae Amazon, fodd bynnag, yn
cydnabod Catalwneg, Basgeg a Galiseg ac mae modd cyhoeddi elyfau ar gyfer y
Kindle yn yr ieithoedd yma yn ddi-drafferth, heb orfod ceisio darganfod rhyw ddrws cefn ac esgus
eu bod yn lyfrau Saesneg. Gweler isod y dewis o ieithoedd sydd ar gael wrth i
ni lwytho llyfrau ar wefan KDP.
Rydym
fel gwasg wedi cysylltu droeon gydag Amazon i gwyno am hyn ac wedi derbyn
negeseuon annelwig yn sôn eu bod yn edrych i mewn i’r mater. Er mwyn cael y
maen i’r wal byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr petai modd i bobl sy’n defnyddio’r
Kindle i gwyno am eu hamharodrwydd i gydnabod y Gymraeg a gwerthu llyfrau
Cymraeg. Does dim rheswm yn y byd pan na ddylai KDP gefnogi llyfrau yn yr iaith
Gymraeg yn yr un modd ag y maent yn cefnogi ieithoedd “llai eu defnydd” yn Sbaen.
Mae yna nifer o declynnau darllen elyfrau
ar gael heblaw am y Kindle (e.e. Kobo, Nook, Sony ayb) a dyw’r rhain
ddim yn gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Os na fydd Amazon yn newid eu polisi efallai mai dim ond drwy’r teclynnau hyn y bydd modd prynu elyfrau
Cymraeg yn y dyfodol. Nid yw'r Lolfa wedi llwyddo i gael llyfrau Cymraeg newydd ar y Kindle ers canol Awst.
Dyma ambell i linc:
Llyfrau’r Lolfa sydd ar y Kindle http://www.amazon.co.uk/s/ref=sr_pg_4?rh=n%3A341677031%2Ck%3Alolfa&page=4&keywords=lolfa&ie=UTF8&qid=1347614992
Un o lyfrau Cymraeg y Lolfa wedi ei wrthod gan
Kindle (gweler y neges mewn melyn, sylwer hefyd taw Saesneg yw iaith y llyfr) http://www.amazon.co.uk/Awr-y-Locustiaid-ebook/dp/B008SC0RCS/ref=sr_1_13?ie=UTF8&qid=1347620625&sr=8-13
Elyfrau Catalaneg Amazon.es http://www.amazon.es/s/ref=amb_link_161711967_1?ie=UTF8&rh=n%3A1336310031&page=1&pf_rd_m=A1AT7YVPFBWXBL&pf_rd_s=left-1&pf_rd_r=0D6E7WGBD0D494JJN2V6&pf_rd_t=101&pf_rd_p=295982647&pf_rd_i=827231031
Tuesday, 22 May 2012
Lansiad Blasus Nofel Newydd Manon Steffan Ros
Yr awdures gyda'i nofel newydd |
Cynhaliwyd
lansiad hynod lwyddiannus yn Llyfrgell newydd y Dref, Aberystwyth nos Fercher yr
16eg o Fai wedi i haid ymgasglu i ddathlu cyhoeddi Blasu, nofel newydd Manon Steffan Ros. Yn
ogystal â dathlu’r nofel newydd, roedd hi hefyd yn noson arbennig yn hanes y
llyfrgell, gan mai dyna’r digwyddiad cyntaf i’w chynnal yno ers iddi agor ei
drysau am y tro cyntaf ar ddechrau’r mis.
Croesawyd pawb
wrth y drws gyda gwydraid o win a dewis o gacennau lu, danteithion a baratowyd
yn arbennig gan yr awdures ei hun gan ddefnyddio’r ryseitiau sydd i’w cael yn y
nofel, yn ogystal â chacennau bach gan gogyddes ifanc leol, Mari Elin Morgan,
sydd wedi sefydlu busnes pobi ei hun yn ddiweddar, Sleisen o
Deisen.
Manon Steffan Ros, Nia Peris a Branwen Rhys Huws yn mwynhau eu cacennau! |
“Dwi wastad wedi
bod dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad efo bwyd,” cyfaddefodd Manon Steffan
Ros yn y lansiad. “Mae fy atgofion hefyd ynghlwm â pha bynnag fwyd oedd o gwmpas
ar y pryd – mae fy ngŵr yn fy herian i am ’mod i’n cofio’n union pa bryd ges i
mewn bwyty ddeng mlynedd yn ôl, ond yn methu cofio lle dwi ’di rhoi fy
ngoriadau! Mae bwyd yn brofiad emosiynol i mi, mae o’n un o’r ffyrdd dwi’n
dangos cariad.”
Ond er bod pob
pennod yn dechrau gyda rysáit wahanaol, prysurodd Manon i bwysleisio nad llyfr
ryseitiau yw’r nofel, ond cyfle i ddarllenwyr flasu a phrofi’r un pethau â’r
prif gymeriad, Pegi. Wrth ddewis a dethol y ryseitiau ar gyfer y nofel,
cyfrannodd Manon ambell un sy’n agos at ei chalon – gan gynnwys pwdin barlys
roedd ei hen hen nain yn ei baratoi bob bore ar gyfer naw o blant, a rysáit am
grempogau ceirch ei nain o ochr arall y teulu.
“Mi fues i’n
pendroni am hydoedd a ddylwn i ddewis ryseitiau ro’n i’n gwybod oedd yn
boblogaidd a thrin y nofel fel cyfle i arddangos fy hoff fwyd. Ond, yn y diwedd,
roedd amgylchiadau Pegi yn llywio’r ryseitiau.”
“Mae cael
perthynas gymhleth efo bwyd bron â bod yn norm erbyn hyn,” eglurodd Manon.
“Dwi’n synnu faint o bobl sydd wedi dioddef o ryw anhwylder bwyta yn ystod eu
bywydau, ac erbyn heddiw rydan ni’n gweld bwydydd fel rhai da neu ddrwg. Wrth
gwrs, mae hyn yn golygu bod bwyd a bwyta’n brofiad emosiynol – tydi o ddim yn
fater o fwynhau neu gasáu, mae o’n weithred o ddrygioni neu
ddaioni.”
Dyma ail nofel yr awdures i oedolion, a
hynny’n dilyn llwyddiant ei nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn, enillydd gwobr Barn y Bobl
Golwg 360 yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Yn yr un flwyddyn fe enillodd
Manon Wobr Tir na-Nog am Trwy’r
Tonnau, nofel i blant a phobl ifanc, ac mae ei nofel ddiweddaraf i
bobl ifanc Prism, wedi cyrraedd
rhestr fer Gwobr Tir na-Nog 2012.
Manon yn llofnodi copi i'w ffrind, Gwen Gruffudd |
Subscribe to:
Posts (Atom)